
![]() |
![]() hough self-taught I believe that my approach has been largely influenced by my interest in the work of three Welsh painters: Kyffin Williams, John Blockley and John Knapp-Fisher. All three included in their work simple farming structures, dramatic skies and a limited colour palette. The Black Mountains, the source of my inspiration, offer an excellent blend of buildings and landscape – old farms, chapels, valleys, ridge walks etc operating at the small scale, within the larger setting of the Brecon Beacons which bring waterfalls, the canal and some significant mountain peaks. The intention is to create highly textured images of the Welsh landscape presented with contrast and bordering on the semi-abstract. The effect is achieved through a combination of textural work in acrylics, applied with a palette knife and overlays of deeply saturated pure watercolours from Italy.
Er fy mod wedi dysgu fy hun, rwy’n credu bod fy niddordeb yng ngwaith
tri pheintiwr o Gymru wedi dylanwadu’n fawr ar fy null, sef Kyffin Williams,
John Blockley a John Knapp-Fisher. Roedd y tri ohonynt yn cynnwys yn eu
gwaith strwythurau ffermio syml, awyr ddramatig a dim ond ychydig o liwiau.
Mae’r Mynyddoedd Du, sef ffynhonnell fy ysbrydoliaeth, yn cynnig
cymysgedd ardderchog o adeiladau a thirwedd – hen ffermydd, capeli,
dyffrynnoedd, llwybrau crib ayb yn gweithredu ar y raddfa fechan, a hynny yn
lleoliad ehangach Bannau Brycheiniog sy’n cyflwyno rhaeadrau, y gamlas a
rhai copaon mynydd sylweddol.
Y bwriad yw creu delweddau o dirwedd Cymru sy’n llawn gwead wedi’u
cyflwyno â chyferbyniad ac yn ymylu ar y lled haniaethol. Cyflawnir yr
effaith drwy gyfuno gwaith gweadeddol mewn paent acrylig, sy’n cael ei osod
gyda chyllell balet, a throshaenau o ddyfrlliwiau pur hynod ddwys o’r Eidal.
|
![]() |








